Erthygl gan Richard Lloyd Jones Gohebwr Chwaraeon Eco'r Wyddfa am ymweliad Robin Mcbryde (ai Fam) I Glwb Cinio Arfon
( This is an article reproduced by kind permission of Richard Lloyd Jones Sports Editor of welsh language local paper/magazine Eco'r Wyddfa on Robin Mcbryde and his mam talk at Club Cinio Arfon-- diolch R)
Dyna’n sicr wnaeth aelodau Clwb Cinio Arfon yn ddiweddar a manteisio ar ymweliad cyn-fachwr Cymru Robin Mcbryde â’i fam sy’n byw ym Mrynrefail. Cafwyd noson hwyliog, yn datgelu awyrgylch ac agweddau y gêm rygbi fodern. Rhannwyd y sgwrs yn ddau ran, y cyntaf yn dilyn ei yrfa fel chwaraewr a hyfforddwr, cyn cael ail ran o sesiwn holi ac ateb.
O rygbi lefel ieuenctid ym Morthaethwy a’r Wyddgrug ble bu’n ffodus i dderbyn hyfforddiant o’r flaen uchaf. Ymlaen wedyn i chwarae i Abertawe, ac ymgaertrefu yng Nghwm Gwendraeth. Symudiad fu o’i fodd, gan fod rygbi dosbarth cyntaf yn mynnu ymroddiad a chystadleuaeth. Yn wir, roedd y bachwr y cymerodd Robin ei le yn nhîm y Gwynion yn ddarpar brawd ynghyfraith iddo. Croesi Afon Llwchwr wedyn ac ymuno â’r Scarlets ac awyrgylch drydanol, beirniadol ac un-llygeidiog Y Strade. Yn 1992 ennill teitl ‘dyn cryfaf Cymru’. Yn ei dro, chwarae 250 o gemau i’r Scarlets gan fod yn gapten yno. Daeth yr alwad genedlaethol yn 1994 yn erbyn Fiji yna yn ennill 37 cap gan sgorio un cais yn erbyn Canada. Bu’n aelod o garfan y Llewod yn 2001. Yna cael cyfle i hyfforddi yn 2005 gyda thîm ieuenctid y Scarlets. Arweiniodd hyn yn y man i Robin reoli tîm Cymru ar y daith i Ganada/ UDA pan oedd Gatland gyda’r Llewod.
Aeth ymlaen i fyd rygbi rhyngwladol modern wedyn. Ar y lefel yma mae awyrgylch o gwmpas y garfan yn holl-bwysig. Rhaid wrth ddisgyblaeth, hunan asesiad ac ymroddiad llwyr. Yn ddios meddai Robin roedd cyfraniad y tri Kiwi Henry, Hansen a Gatland wedi newid agweddau’r Cymru. Daeth cyfnod chwalu ambell hen draddodiad ac yn sicr gwella ffitrwydd. Daeth dewis y garfan yn wyddonol bron. Agwedd yr unigolyn, safon ei chwarae i’w ranbarth yn gyson. Y gallu i ymateb ar amrantiad. Deall cymeriad yr unigolyn. Pryd oedd amser beirniadu, pryd roedd amser y ‘mwytha’. A chofio mai prin bellach yw lle i’r ‘unigolyn’, beth bynnag ei allu , oherwydd carfan cenedlaethol yw’r galw bellach.
Datgelodd un ystadegyn rhyfeddol iawn. Disgwyliir i ffitrwydd tîm Cymru ennill gemau os yw’r bêl ar dir y chwarae am 42 munud – cyfnod hir. Dyna pam mae Cymru yn mynnu cicio i’r tir agored yn hytrach na thros yr ystlys. Diddorol ei sylw mai Iwerddon – nid Lloegr- yw’r gelyn mawr bellach ymysg y chwaraewyr. Dyma’r gêm gorfforol bellach. Problem ddiweddar i Gymru yn ddiweddar yw fod y Gwyddelod wedi datblygu system chwarae ble gall y bêl fod ar dir y chwarae am gyn-lleied â 32 munud.
Cafwyd ambell i gwestiwn da, yn ymwneud a gor-bwysigrwydd y TMO yn y gêm. Datblygiad clwb RGC ac am sawl tymor y bydd yr Undeb yn dal i bwmpio arian i gyfeiriad y gogledd. Beth yw ei farn ar Eddie Jones? Pa mor galed yw’r hyfforddwr Sean Edwards? Dyfynodd agwedd Sean at yr unigolyn – “ If I criticise you it shows I care about you”. Faint o dda ydy Nigel Owens? Y gorau, y mwyaf cyson.
Ond daeth a’r orig i ben gan ddweud mai uchafbwynt ei fywyd oedd dilyn yr unigryw Ray Gravell fel Ceidwad y Cledd. Chwaraewr onest a dyn onest yw Robyn Mcbryde. Diolch am ei gyfraniad.
There are no events to show yet.