The entire Rygbi Gogledd Cymru (RGC1404) squad are backing the Stoptober campaign by wearing campaign t-shirts for training and as they warm up for their game against Tondu, Bridgend at Eirias park next Saturday - 27 September.
Smokers who come to watch the match will also be encouraged to join the thousands who kick the habit into touch for the month of October.
Rupert Moon is the North Wales Development Region’s General Manager; “As a team we are really pleased to be backing this campaign. Smoking is responsible for so many premature deaths and ill-health in Wales. We are a smoke free squad and are committed to encouraging youngsters not to start. We hope that smokers will join Stoptober and get help to quit.”
Kelvin Davies is the team captain, “We try our best to be a healthy club, we are role models and need to be setting a good example to aspiring young rugby players – Stoptober is a great idea.”
The teams hooker Andrew Baston will be encouraging his family and friends to quit” I’m going to persuade my family and friends to take part and be smoke free through October”
Andrew Jones is the Executive Director of Public Health for Betsi Cadwaladr University Health Board, “We are really pleased that RGC1404 are helping us to promote this really important campaign. Sport and smoking don’t mix and our partners in sport can help us spread the word.
“We know that stopping smoking is one of the hardest things many people will do and we want to make sure that they get the support they need as those that get specialist smoking cessation support are four times more likely to be successful.”
Stoptober provides a range of daily motivational support during the twenty eight days of the challenge. You can choose between: a Stoptober Pack, email support, Stoptober App or Text support. In addition there is specialist smoking cessation support available from Stop Smoking Wales and your local Pharmacy.
Sign up to Stoptober between 9th and 28th September ready to start your quit challenge on 1st October. All the support you need and details on how to sign up to Stoptober can be accessed by going to:
www.stopsmokingwales.com or calling 0800 085 2219
Ciciwch yr arferiad dros yr ystlys...RGC1404 yn cefnogi Stoptober
Mae sgwad cyfan Rygbi Gogledd Cymru (RGC1404) yn cefnogi’r ymgyrch Stoptober drwy wisgo crysau T yr ymgyrch ar gyfer hyfforddi ac wrth iddyn nhw ystwytho ar gyfer eu gêm yn erbyn Tondu, Pen-y-bont ar Ogwr ym Mharc Eirias dydd Sadwrn nesaf 27ain o Fedi. Bydd ysmygwyr sy’n dod i wylio’r gêm yn cael eu hannog i ymuno â’r miloedd sy’n cicio’r arferiad dros yr ystlys ar gyfer mis Hydref.
Rupert Moon yw Rheolwr Cyffredinol Rhanbarth Datblygu Gogledd Cymru. “Rydyn ni fel tîm yn falch iawn o fod yn cefnogi’r ymgyrch hon. Mae smygu’n gyfrifol am gymaint o farwolaethau cyn pryd a salwch yng Nghymru. Rydyn ni’n sgwad sy’n ddi-fwg ac yn ymroddedig i annog pobl ifanc i beidio â dechrau. Gobeithiwn y bydd ysmygwyr yn ymuno â Stoptober ac yn cael help i roi’r gorau iddi.”
Kelvin Davies yw capten y tîm, “Byddwn yn gwneud ein gorau i fod yn glwb iach, rydyn ni’n fodelau rôl ac mae angen i ni fod yn esiampl i chwaraewyr rygbi ifanc uchelgeisiol – mae Stoptober yn syniad ardderchog.”
Bydd bachwr y tîm, Andrew Baston, yn annog ei deulu a’i ffrindiau i roi’r gorau iddi, “Rydw i’n mynd i berswadio fy nheulu a’m ffrindiau i gymryd rhan ac i fod yn ddi-fwg drwy gydol mis Hydref.”
Andrew Jones yw Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, “Rydyn ni’n wirioneddol falch fod RGC1404 yn ein helpu i hyrwyddo’r ymgyrch hynod bwysig yma. Nid yw chwaraeon a smygu’n cymysgu a gall ein partneriaid mewn chwaraeon ein helpu i ledaenu’r neges.
“Gwyddom mai rhoi’r gorau i smygu yw un o’r pethau anoddaf i lawer o bobl ei wneud ac rydyn ni am wneud yn siŵr eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw gan fod y rheiny sy’n cael cefnogaeth arbenigol i roi’r gorau i smygu bedair gwaith yn fwy tebygol o lwyddo.”
Mae Stoptober yn darparu ystod o gymorth cymhellol dyddiol yn ystod 28 diwrnod y sialens. Gallwch ddewis rhwng: Pecyn Stoptober, cymorth e-bost, App Stoptober neu gymorth Testun. Yn ogystal mae cymorth stopio smygu arbenigol ar gael gan Dim Smygu Cymru a’ch Fferyllfa leol.
Cofrestrwch â Stoptober rhwng Medi 9fed a’r 28ain yn barod i ddechrau eich sialens o roi’r gorau iddi ar Hydref 1af. Gellir cael gafael ar yr holl gymorth sydd ei angen arnoch chi a manylion ar sut i gofrestru â Stoptober drwy fynd i:
www.stopsmokingwales.com neu ffonio 0800 085 2219
There are no events to show yet.