Following report kindly supplied by Nant Conwy RFC.
Trefn y sgorio a'r sgorwyr / Scoring Sequence and scorers:
4m: 3 – 0 Ryan Pike, 18m: 3 – 5 CARWYN ELLIS & 3 – 7 ARTHUR LENNON, 24M: 6 – 7 Ryan Pike, 38m: 11 – 7 Dave Davies & 13 – 7 Ryan Pike
42m: 13 – 10 ARTHUR LENNON, 62m: 13 – 13: ARTHUR LENNON, 72m: 13 – 16 ARTHUR LENNON, 80m: 13 – 21 GETHIN VAUGHAN & 13 – 23 ARTHUR LENNON
Dyfarnwr / Referee: Mr Dylan Davies, Bethesda
Nant Through To The Semi Final Of The North Wales Cup
A victory for Nant by twenty three points to thirteen over Llandudno sees them reaching the semi -final of the North Wales Cup.
An exciting game, with Llandudno having a heavy powerful and well drilled pack, whilst the Nant pack were mobile, skilful and talented. With the damp conditions and a heavy pitch, unforced errors and a lack of discipline were to play a major part in the outcome.
Four minutes in, Nant were penalised for being offside in front of their own posts. Ryan Pike kicked a comfortable penalty to put the home side ahead. Eighteen minutes on the clock and Nant scored their first try of the afternoon through the hands of Carwyn Ellis, following some exceptional forward play. The successful conversion from a difficult angle by Arthur Lennon put Nant ahead by seven points to three. Six minutes later, a penalty awarded for not releasing the ball in the tackle saw Llandudno narrow the lead. Constant Llandudno pressure on the Nant try line saw Llandudno gain their one and only try of the match through the hands of Dave Davies. That, and the successful conversion put them ahead at the interval, by thirteen points to seven.
Within two minutes of the re-start, ill- discipline, by Llandudno on this occasion, enabled Arthur Lennon to narrow the Llandudno lead. Throughout the second half it was constant Nant pressure in the Llandudno section of the field, Llandudno not being able to exit their half of the field. As the pressure grew on the home side, they began to lose their shape and discipline. Two penalties were awarded against them for offside and a high tackle respectively. Despite the score being sixteen to thirteen in Nant’s favour, the Nant team were unrelenting in their attacking and in the dying minutes of the game, Gethin Vaughan crossed the try line and with the resulting conversion put the game beyond Llandudno’s reach.
Nant Trwodd I’r Rownd Cyn Derfynol Cwpan Gogledd Cymru.
Buddugoliaeth i Nant o dri phwynt ar hugain i dri ar ddeg, yn golygu fod Nant drwodd i rownd gyn derfynol Cwpan Her Gogledd Cymru.
Gêm eithaf cyffrous rhwng y ddau dîm - Llandudno gyda blaenwyr trwm a nerthol, wedi eu hyfforddi’n dda, a Nant gyda blaenwyr sydyn, ifanc a thalentog. Y cae yn drwm ac yn ei gwneud yn anodd i chwarae gêm eithaf agored, ac yn ffafrio’r sgiliau amddiffyn. Camgymeriadau a diffyg disgybliaeth yn penderfynnu‘r canlyniad.
Y sgôr cyntaf yn dod i Llandudno, pan roddwyd cic gosb wedi pedwar munud am gamsefyll. Ryan Pike yn llwyddianus gyda’r cic gosb. Nant yn ymateb, ar ôl deunaw munud i mewn i’r hanner drwy law Carwyn Ellis ar yr asgell dde, wedi gwaith bendigedig gan y blaenwyr. Arthur Lennon yn llwyddianus gyda’r trosiad o ongl anodd. Camgymeriad arall gan Nant ar ôl pedwar munud ar hugain, y tro hwn am beidio symud i ffwrdd yn y dacl. Ryan Pike unwaith eto yn llwyddianus gyda’r gic. Cyfnod o bwyso yn hanner Nant yn dilyn i gamgymeriad arall, y tro yma, Dave Davies yn sgorio cais i roi Llandudno ar y blaen ar yr egwyl o dri pwynt ar ddeg yn erbyn saith.
O fewn dau funud i’r ail hanner, Llandudno y tro hwn yn camsefyll, ac Arthur Lennon yn lleihau y gwahaniaeth yn y sgôr.Nant yn pwyso’n galed yn hanner Llandudno trwy gydol yr hanner, a Llandudno yn dechrau colli eu siap a’u disgybliaeth. Dwy gic gosb arall i Nant yn y cyfnod yma, un am gamsefyll ac un arall am dacl uchel, yn rhoi Nant ar y blaen o un pwynt ar bymtheg i dri ar ddeg, gyda deg munud i fynd. Gwhaniaeth yn y sgôr yn agos, bechgyn Nant yn anfaddeuol, rhoi dim cyfle i Landudno ddod allan o’u hanner hwy o’r cae. Gyda munudau i fynd, gwelwyd Gethin Vaughan yn croesi’r llinell gais, a chyda trosiad llwyddianus, gwelwyd unrhyw obaith oedd gan Llandudno o ennill y gêm, yn diflanu.
[John Parry]
There are no events to show yet.