Rhagolwg a Rhagfynegu 2/3/19 Preview and Predicitions 2/3/19
Nol iddi penwythnos yma gyda gemau ar hyd y gogledd o Langefni i’r Wyddgrug lawr i Ddolgellau ac ar draws i’r Drenewydd.
Yn Adran 1, dylai Llandudno a Phwllheli gael digon i guro Bro Ffestiniog a Llangefni. Mae gan Rhuthun ddipyn o gem yn erbyn y Cofis, ond mi ddylai bod ganddyn nhw ddigon i drechu’r tim cartref. Bydd y gem yn y Wyddgrug yn un ddiddorol yn enwedig i feddwl bod rhaid i’r Wyddgrug guro Dinbych i sicrhau eu bod nhw dal i gwffio er mwyn bod yn yr Adran 1af tymor nesaf. Dwi’n siwr y bydd y gem arall yn glincar sef Bethesda yn erbyn Nant Conwy. Dim ond 320 milltir o drafeilio yn yr adran yma wythnos yma!
Adran 1 / Division 1
Bethesda v Nant Conwy (home win)
Caernarfon v Ruthin (away win)
Llandudno v Bro Ffestiniog (home win)
Mold v Dinbych (away win)
Pwllheli v Llangefni (home win)
Yn yr ail adran, nifer o dimau gyda ddipyn o siwrna o’i blaenau – gyda Bae Colwyn angen trafeilio i COBRA, Bangor angen mynd holl ffordd lawr i Llanidloes ac Abergele gyda ddipyn o daith i Ddolgellau. Dwi’n siwr bydd y gem yn y Drenewydd yn un da hefyd gyda Wrecsam yn trafeilio yno. Un tim sydd yn trafeilio ffordd arall ydy’r Trallwng sydd angen mynd i’r Rhyl. Cyfanswm o 658 milltir rhwng bob gem!
Adran 2 / Division 2
COBRA v Colwyn Bay (home win)
Dolgellau v Abergele (home win)
Llanidloes v Bangor (home win)
Newtown v Wrexham (away win)
Rhyl v Welshpool (home win)
Yn y drydydd adran, bydd 2il yn erbyn 1af, gyda Shotton yn ymweld â Machynlleth (siwrna o 1awr 42 munud yn ol y TomTom!). Bydd Rhos sydd yn trafeilio o’r dwyrain i’r gorllewin (i herio Ail Dim Llangefni) yn siwr o basio Porthaethwy sydd yn trafeilio o’r gorllewin i’r Wyddgrug. Dipyn o drafeilio yn yr adran yma hefyd (690 i fod yn agosach ati!)
Adran 3 / Division 3
Dinbych 2nds v Holyhead (away win)
Llangefni 2nds v Rhos (home win)
Machynlleth v Shotton (home win)
Mold 2nds v Menai Bridge (away win)
Pwllheli 2nds v Flint (home win)
Pob lwc i Glwb Rygbi Bethesda sydd yn agor y clwb newydd yn swyddogol dydd Sadwrn cyn y gem fawr yn erbyn Nant Conwy.
Back to it this weekend with a full set of fixtures for all three divisions across the region from Llangefni to Mold to Dolgellau to Newtown.
In Division 1, Tudno should have enough to beat Bro Ffestiniog (who took Pwllheli very close a few weeks back) while Pwllheli will play Llangefni (who beat Mold) last time. Ruthin will face a difficult game at Caernarfon while Mold will have a very important game at home to Denbigh – especially if they want to keep on playing in Division One next season – this could their turning point. I’m sure the other game will be a cracker between Bethesda and Nant Conwy. Only the 320 miles to travel to and from these matches for the away teams this weekend.
In the second division, a number of teams face a long journey from north to south. With Colwyn Bay travelling to Meifod, Bangor playing in Llanidloes and Abergele travelling to Dolgellau. I’m sure the game at Newtown will be a good one as well with Wrexham visiting. One team that go from south to north are Welshpool that need to visit Rhyl. A total of 658 between all games!
In division three Shotton face a 3 and half hour round journey to and from Machynlleth where 2nd face the leaders. I’m sure Rhos will pass Menai Bridge as one team travels from east to west while the others go from west to east. Quite a few miles in this division this weekend as well (690 miles to be closer to it!).
All the best to Bethesda RFC this weekend as they officially open their new clubhouse this weekend prior to the game vs Nant Conwy.
Gem y penwythnos:
Bethesda v Nant Conwy
Er nad yw’r gem o bwysigrwydd unryw ben o’r tabl, i fi, hwn yw gem y penwythnos. Gyda Bethesda yn dim anodd iawn i chwarae yn erbyn yn Dol Dafydd a’i cymdygion o Ddyffryn Conwy a all ymosod o unryw le ar y cae – hon fydd y gem ar gyfer y neutrals. Hefyd, gan bod y tim cartref yn agor y clwb newydd yn swyddogol a nifer o’r chwaraewyr o’r tim a enillodd y gynghrair ugain mlynedd yn ôl yn cwrdd – dwi’n meddwl fydd hi’n gem agos iawn gyda’r tim cartref i ennill.
This match may not be a huge match within the title race or the relegation race this year, however, with the home side a difficult side to beat at home and a Nant Conwy team that can attack from anywhere on the pitch – this is my match of the weekend for any neutral across the region. Also, with Bethesda officially opening their new clubhouse and a reunion for the title winning side from 20 years ago, I think it will be a very close game with the home side winning by the slightest of margins.
Un i wylio / One to watch: Sion Pringle, Nant Conwy
Er mai maswr oedd Sion Pringle ar ddechrau’r tymor, mae o wedi chwarae dipyn o gemau fel cefnwr eleni yn sgorio 6 cais. Mae ganddo gyflymder sy’n medru torri trwy’r amddiffyn digon hawdd – pan mae’n gweld lle. Un yn sicr i wylio lle bynnag y bydd yn chwarae.
Although Sion Pringle started the season as an outside half, he has played quite a bit of rugby at 15 this season scoring 6 tries since the start of the season. He has an excellent turn of pace once he sees a gap in the defence. One to watch without a doubt – whatever the number on his back.
There are no events to show yet.