Following report kindly supplied by Nant Conwy RFC.
NANT NAIL LEAGUE TOP SPOT
This was the penultimate show down in the quest for League Division One North’s top honours.
It was no surprise to see an uncompromising Nant, fielding one of their strongest starting lines and they were gunning for the title from the “off”; within the first minute we saw them touch down for the first try.
With only three points required to secure the 2018 league silverware, Nant were definitely not complacent today, keeping their foot firmly on the gas for the full eighty, launching one blistering attack after another, powering through and wrong footing the Llangefni defensive line.
It’s no secret that at this time of this year with so many tough matches played, that the game becomes more about mental as well as physical toughness which was evident today; testimony to their determination and resolve to deliver maximum points to ensure a job well done .
Nant have shown their dominance in North Wales rugby this season by conceded an average of just 12 points per game .
We have witnessed some fantastic rugby and congratulate the boys for what has been an outstanding season; one of the finest in recent years.
The lads will no doubt be ready for their final encounter on Wednesday next when they play Llandudno RFC KO 7.30pm
Trefn y sgorio a'r sgorwyr / Scoring Sequence and scorers:
1m: 5 – 0 ARTHUR LENNON & 7 – 0 ARTHUR LENNON, 4m: 7 – 5 Ynyr Llwyd & & - 7 Rhys Hughes, 8m: 12 – 7 CARWYN AP MYRDDIN & 14 – 7 ARTHUR LENNON, 18m: 19 – 7 CARWYN ap MYRDDIN & 21 - 7 ARTHUR LENNON, 22m: 26 – 7 JACK MORIARTY, 25m: 31 – 7 JACK MORIARTY & 33 -7 ARTHUR LENNON, 32m: 33 – 12 Bedwyr Williams, 38m: 38 – 12 CARWYN ELLIS
50m: 43 – 12 GETHIN VAUGHAN & 45 – 12 ARTHUR LENNON, 59m: 50 – 12 CARWYN ap MYRDDIN & 52 - 12 ARTHUR LENNON, 61m: 57 – 12 ARTHUR LENNON & 59 – 12 ARTHUR LENNON, 65m: 59 – 17 Cai Oliver & 59 – 19 Rhys Hughes, 74m: 64 – 19 GUTO DAFYDD &
66 – 19 ARTHUR LENNON, 78m: 66 – 24 Gethin Andrews & 66 – 26 Rhys Hughes 80m:
71 – 26 SION PRINGLE
Dyfarnwr / Referee: Mr Ceirion Parry, Fali, Ynys Môn
NANT YN SICRHAU Y LLE UCHAF YN Y GYNGHRAIR
Hon oedd y sioe olaf ond un yn yr ymdrech am Dlws Pencampwyr Adran 1 y Gogledd am y tymor.
Nid oedd yn syrpreis gweld tîm Nant yn ddi-ildio gan roi carfan gyda’r cryfaf ar y maes ac roeddent yn llygadu’r teitl o’r dechrau un gyda chais yn cyrraedd yn y funud gyntaf! Gyda ond tri phwynt cynghrair ei angen ar gyfer cael y tlws ‘arian’ y gynghrair am 2018, nid oedd Nant am gymryd pethau’n ysgafn heddiw, gan bwyso’r pedal gyrru drwy’r 80 munud cyfan. Lawnsiwyd ymosodiadau o ddyfnder drwy’r gêm i gyd gan wthio’n bwerus trwy amddiffynfa Llangefni ac ochrgamu’n ddeheuig ar droeon eraill.
Nid yw’n gyfrinach erbyn yr adeg hyn o’r tymor gyda nifer sylweddol o gemau caled wedi’u chwarae fod y gêm yn fwy yn y meddwl yn ogystal ac mewn ffitrwydd a gallu corfforol. Roedd y dair elfen hon yn amlwg heddiw; tystiolaeth o’u hawydd pendant a’u gallu i gael y mwyafrif o’r pwyntiau cynghrair oedd ar gael er mwyn gadael wedi cael ‘diwrnod da’.
Ar gyfartaledd, 12 pwynt y gêm a idiwyd gan Nant eleni – record amddiffynol ddi-guro. Yn ogystal, sgoriwyd mwy o bwyntiau nag a sgoriwyd gan unrhyw Dîm arall o Adran 1 yn y Gogledd.
Bu i’r cefnogwyr fod yn dystion i rygbi gwerth chweil a rhaid yw llongyfarch y bechgyn am yr hyn y gellir ei alw’n dymor ardderchog – yn wir, un o’r goreuon o’r tymhorau diwethaf yma.
Yn sicr, bydd yr holl garfan yn barod am eu gêm olaf nos Fercher nesaf (16eg Mai) pan fyddent yn wynebu Llandudno gartref ym Mhant Carw gyda’r gic gyntaf am 7:30 o’r gloch.
There are no events to show yet.