It's getting very tight at the top of Division One North after tonight's win for Nant at Denbigh.
Team | P | W | D | L | BP | Total |
Pwllheli | 21 | 19 | 1 | 1 | 9 | 87 |
Nant Conwy | 20 | 17 | 0 | 3 | 15 | 83 |
Bala | 22 | 13 | 1 | 8 | 8 | 62 |
Nant have two games to play:
Away v Llandudno - 25th April
Away v COBRA - Monday, May 4th, 2.30pm
Pwllheli have one game to play:
Bro Ffestiniog v Pwllheli - 25th April
Denbigh 0 v Nant Conwy 43
Sgorwyr NANT CONWY scorers:
Ceisiau / Tries: Tom Oliver, Cai Jones, Jack Moriarty, Robin Parry, Aeron Jones, Iestyn Dafydd & Sion Pringle
Trosi / Conversions: Delwyn Jones (4)
Ar gae called yn dilyn cyfnod o dywydd heulog ac o flaen nifer o wylwyr, cyrhaeddodd ceisiau Nant Conwy’n gyson drwy’r gêm gyfan. Bu’r ddau dîm yn gwylio’i gilydd yn ofalus cyn i rif 8 Nant – Tom Oliver yn chwarae ar fenthyg o Feddygfa Caerdydd blymio trosodd am gais o fôn hyrddiad gan y pac wedi 20 munud. Troswyd gan Delwyn Jones – y cyntaf o bedwar trosiad llwyddiannus.Ddeng munud yn ddiweddarach, wele’r rhif 9, Cai Jones yn bylchu’n hyfryd drwy dri tacl o fôn hyrddiad arall gyda Delwyn ynychwanegu’r ddeubwynt.. Ar ddiwedd yr hanner cyntaf, bu i’r asgellwr chwith, Jack Moriarty, gasglu pas hir iddo yn ei hanner ei hun a llwyddodd i gyrraedd y pyst am gais cyn neb arall. Trosiad arall gan Delwyn i roi sgôr o 0 – 21 ar yr hanner.
Yr un oedd patrwm yr ail hanner gyda’r prop pen rhydd, Rob Parry’n tirio wedi naw munud yn dilyn hyrddiad rhedeg. Wedi 20 munud, bu i Cai godi’r bêl ar y chwith ac osgoi sawl tacl wrth redeg tua’r canol cyn dadlwytho i’r canolwr, Aeron Jones a redodd i dderbyn y bêl ar ongl i dirio o dan y pyst gyda Delwyn yn trosi eto. Wedi 30 munud, torrodd Emrys Evans (eilydd o rif 9) yn rhydd ar y dde gan roi cic fownsio i’r bêl i’r canol lle y bu i’r blaen asgellwr (a chwaraewr y gêm yn ôl llawer), Iestyn Dafydd gipio’r bêl a thirio am gais haeddiannol Pum munud union oedd yn weddill pan fu i Sion Pringle (asgellwr de heno) ddal cic uchel o’r amddiffyn a llwyddo i redeg yn gyflymach na phawb i dirio’n y gornel dde. Gorfennodd y gêm gyda sgôr o 0 – 43 (a pwynt bonws am bedwar cais).
Bydd gêm nesaf NANT CONWY i ffwrdd yn erbyn Llandudno brynhawn Sadwrn nesaf (25.04) gyda’r gic gyntaf am 2.30 o’r gloch.
On a hard pitch following several days of sunny weather and in front of a sizeable crowd, Nant’s tries came at regular intervals throughout the match. Both sides sized each other up for the first twenty minutes before permit player from Cardiff Met. Tom Oliver, scampered over for a try from the base of a strong ruck by the pack. Dewlwyn Jones (Fly alf) converted the first of his 4 conversions for the evening. Ten minutes later, Scrum Half, cai Jones broke beautifully from the base of another ruck an escaped the clutches of three attempted tacklers to touch down by the sticks. Delwyn turned the score into a 7 pointer. Just before the half time whistle, left winger, Jack Moriarty gathered a long pass to him in his own half and outpaced everyone to score a try by the posts for a converted try and a score of 0 -21 at the interval.
The pattern of play continued in the second half and, after 9 minutes play, loose head prop, Rob Parry touched down after a running maul. Three quarters way through the match, Cai Jones gathered the ball on the left hand side and evaded several tackles before setting up a delayed pass to fast running Centre, aeron Jones to split the defence to score a try. After 30 minutes play, replacement no. 9, Emrys Evans sprinted along the right touchline a nd placed a lovely grubber kick towards the centre of the pitch where, Flanker, Iestyn Dafydd (mam of the match in most Supporters’ view) collected the ball to score a deserved try. Five minutes exactly remained when right winger, Sion Pringle, scored a similar try to Jack’s in the first half. He collected a defensive kick in his own half and outpaced everyone to touch down in the corner. The match ended with a score of 0 -43 [and a bonus point for scoring 4 tries for Nant].
On now to NANT CONWY’s next match which will be next Saturday (25.04) away against Llandudno with the kick off at 2.30 p.m.
Gemau eraill / Other matches:
NANT CONWY [2] – 105 v DINBYCH / DENBIGH [2] – 0
(15 cais / try & 15 trosiad / conversion)
Adran 1 o Gynghrair Ail Dimau’r Gogledd / N. W. 2nd Teams League – Div. 1
There are no events to show yet.