Fantastic game of rugby and thanks to Nant Conwy RFC for the following report.
Clwb Rygbi Nant Conwy
Pwllheli – 21 v NANT CONWY – 20
[Cwpan Her Gogledd Cymru / North Wales Senior Cup – Cyn derfynol / Semi Final]
Beaten by the clock
The winner of this anticipated match will no doubt be odds on favourite to lift the North Wales Cup 2018.
Playing Conditions were difficult with strong, gusting arctic winds and the odd flurry of snow.
Fewer than usual supporters from both sides, made the journey to the match; no doubt preferring to stay at home (or the nearest watering hole) to watch the 6 nations.
Pwllheli were awarded a penalty in the opening 2 minutes which was successfully dropped between the uprights.
This seemed to affect Nant’s usual composure resulting in Pwllheli having the majority of possession in the opening 15 minutes.
However at the 24 minute point Nant breeched Pwllheli’s defence with a successful converted try .
Much of the remainder of the half saw both sides going toe to toe with little to show on the score board that is, until the 37 minute point when Nant were awarded a penalty which was successfully pinged between the posts making the score 10/3 at the half way point
Ten Minutes into the second half, it was Nant who opened the scoring with a well drilled sequence of play through the backs resulting in a second successfully converted try taking the score to 17/3.
However Pwllheli, in their usual dogmatic manner increased pressure on the Nant defence and were duly awarded a converted try for their efforts at the 53 minute point and a further penalty at the 60 minute point and scoring another try after 75 minutes putting them one point ahead. The score remained a nail biting 18/17 in Pwllheli’s favour (which seems to be the order of play whenever these two teams clash) until 81 minutes when Nant were handed an olive branch penalty putting them ahead once more in the dying embers of the game.
However, with Pwllheli having possession from the re-start and pressurising Nant’s defence in the last seconds; there seemed to be some confusion as to whether “time was up” as Nant picked up the ball to clear out and off their back line. Believing time was in fact up, the ball was kicked to touch only to find that there were still a few seconds remaining on the clock.
From the re-starting line out, play was only going to go one way….. yes…. you’ve guessed it Pwllheli delivered a decisive drop goal to make them the victors today.
It was a disappointing end to a hard fought and fraught game but that’s life as they say.
The next match will be a league encounter where Nant will be at home to Pwllheli K/O
2.30pm; everyone is urged to come along and support the lads.
Nant will then march on to the semis of the SWALEC Plate Easter Saturday time and venue TBC
Trefn y sgorio a'r sgorwyr / Scoring Sequence and scorers:
2m: 3 – 0 Osian Parry Jones, 24m 3 - 5 GWYNFOR MORRIS & 3 - 7 ARTHUR LENNON, 37m: 3 -10 ARTHUR LENNON
50m: 3 – 15 IFAN LL JONES & 3 – 17 ARTHUR LENNON, 53m: 8 – 17 Kevin Morris & 10 – 17 Osian Parry Jones, 60m: 13 – 17 Osian Parry Jones, 75m: 18 – 17 Robin Hughes Jones, 83m: 18 – 20 ARTHUR LENNON, 88m: 21 – 20 Mathrew Parry [Cic Adlam / Drop Goal]
Seren y Gêm / Man of the Match: Geraint Parry [Pwllheli]
Curo gan y Cloc
Edrychwyd ymlaen yn arw at y gêm hon gyda’r enillwyr yn siwr o fod yn ffefrynnau clir i ennill Cwpan Her Gogledd Cymru’n 2018.
Roedd cyflwr y cae’n anodd gyda llawer o fwd arno yn ogystal â gwynt yn chwyrlïo ar draws y cae ac ambell gawod o eira ysgafn.
Gwelwyd llai nag arfer o gefnogwyr yn bresennol gan fod nifer, mae’n denyg wedi penderfynu aros gartref er mwyn gwylio gemau’r 6 Gwlad.
Aeth Pwllheli ar y blaen wedi 2 funud trwy gic gosb gan Osian. Ymddangosodd hyn fel pebae wedi taro hyder Nant gyda’r tîm cartref yn hawlio’r mwyafrif o’r meddiant yn y chwarter awr agoriadol. Ond, ar 24 munud,wedi cyfnod o bwyso gan y pac bu i Brop pen rhydd Nant dirio’r bêl ar y linell i roi Nant ar y blaen. Troswyd y cais gan Arthur. Gwelwyd llawer iawn o chwarae cyfartal rhwng y ddwy ochr am weddill yr hanner cyntaf gyda’r naill ochr na’r llall yn gadael ddim lle i’r ochr arall. Yr unig sgôr a welwyd oedd cic gosb gan Arthur wedi 37 munud gan roi sgôr o 3 – 10 ar yr hanner.
Deng munud i mewn i’r ail hanner, aeth Nant ymhellach ar y blaen gyda chais gan Ifan, y Capten ag a droswyd gan Arthur [3 – 17].
Fodd bynnag, nid oedd Pwllheli am gymryd hyn ac yn eu ffordd arferol o gadw’r bêl ymysg y blaenwyr, gwelwyd hwy’n sgorio cais drwy Kevin wedi 53 munud. Eto, troswyd y cais hwn gan Osian. Llwyddodd Osian gyda chic gosb arall wedi 60 munud. Sgoriodd Robin gais na throswyd wedi 75 munud i roi’r tîm cartref ar y blaen gyda’r chwiban olaf yn dynesu. Cyrhaeddwyd yr amser ychwanegol pan ddangoswyd cerdyn melyn i un o chwaraewyr Pwllheli a dyfanu cic gosb i Nant. Llwyddodd Arthur eto ac ymddangosai fel pebae Nant wedi ennill. Ond, roedd eiliad ddramatig arall i ddod. Gofynwyd I’r Swyddog faint o amser oedd ar ôl a derbyniwyd ateb fod yr amser ar ben. Ciciwyd y bêl allan tros yr ystlys yn ‘22’ Nant ond penderfynwyd fod eiliad yn weddill serch fod y ddau dîm a’u cefnogwyr yn credu fod popeth ar ben! Wedi peth ansicrwydd, taflwyd y bêl yn ôl i’r chwarae a phasiwyd y bêl at Mathew a oedd yn ddigon sgilgar i drosi cic adlam o bell wedi 88 munud ac ennill y gêm i Bwllheli. Drama ta be!!
Ymhen wythnos, bydd y ddau dîm yn cyfarfod eto – yn y gynghrair ac ym Mhant carw y tro hwnnw. Ac ie, ymddengys mai’r un Ddyfarnwraig a fydd yn y canol eto ymhen wythnos!
Ymhen pythefnos [Sadwrn y Pasg], bydd Nant yn ymddangos yn rownd gyn-derfynol Plât Swalec yn erbyn naill ai Crymych neu Ystalyfera gydag amser y gic gyntaf a lleoliad y gêm eto i’w benderfynu.
[Sue Parry]
Dyfarnwr / Referee: Ms Amanda Lattuca, Glan Conwy
Canlyniad araill / Another Result
Cwpan Ieuenctid y Gogledd / North Wales Youth Cup
[Cyfrif fel dwy gêm / A ‘double header’ match]
NANT CONWY – 34 v Pwllheli - 12
Sgorwyr Nant Conwy scorers:
Ceisiau / Tries: JAC METCALFE [2], IFAN WILLIAMS, BRENIG HUGHES, JAMES GOODWIN & EBAN JONES
Trosi / Conversions: JOSH WILLIAMS [2]
[Ifor Glyn]
There are no events to show yet.