The Rygbi Gogledd Cymru (RGC1404) squad backed the Stoptober campaign this Saturday wearing campaign t-shirts as they warmed up.
The Rygbi Gogledd Cymru (RGC1404) squad backed the Stoptober campaign this Saturday wearing campaign t-shirts as they warmed up. The squad who beat Tondu by 45 to 17 points at Eirias Park have been promoting Stoptober to family, friends and fans throughout September and fans who came to watch the match were encouraged to join the thousands who kick the habit into touch for the month of October.
Rupert Moon is the North Wales Development Region’s General Manager; “As a team we are really pleased to be backing this campaign. Smoking is responsible for so many premature deaths and ill-health in Wales. We are a smoke free squad and are committed to encouraging youngsters not to start. We hope that smokers will join Stoptober and get help to quit.”
Kelvin Davies is the team captain, “We try our best to be a healthy club, we are role models and need to be setting a good example to aspiring young rugby players – Stoptober is a great idea.”
Andrew Jones is the Executive Director of Public Health for Betsi Cadwaladr University Health Board, “We are really pleased that RGC1404 are helping us to promote this really important campaign. Sport and smoking don’t mix and our partners in sport can help us spread the word.
All the support you need and details on how to sign up to Stoptober can be accessed by going to:
www.stopsmokingwales.com or calling 0800 085 2219
Mae sgwad cyfan Rygbi Gogledd Cymru (RGC1404) wedi cefnogi’r ymgyrch Stoptober drwy wisgo crysau T wrth iddyn nhw ystwytho ar gyfer ei gem ddydd Sadwrn. Mae’r tim a gurodd Tondu, Pen-y-bont ar Ogwr o 45 pwynt i 17 yn Mharc Eirias wedi bod yn anog ffrindiau, teulu a chefnogwyr i ymuno â’r miloedd sy’n cicio’r arferiad dros yr ystlys ar gyfer mis Hydref.
Rupert Moon yw Rheolwr Cyffredinol Rhanbarth Datblygu Gogledd Cymru. “Rydyn ni fel tîm yn falch iawn o fod yn cefnogi’r ymgyrch hon. Mae smygu’n gyfrifol am gymaint o farwolaethau cyn pryd a salwch yng Nghymru. Rydyn ni’n sgwad sy’n ddi-fwg ac yn ymroddedig i annog pobl ifanc i beidio â dechrau. Gobeithiwn y bydd ysmygwyr yn ymuno â Stoptober ac yn cael help i roi’r gorau iddi.”
Kelvin Davies yw capten y tîm, “Byddwn yn gwneud ein gorau i fod yn glwb iach, rydyn ni’n fodelau rôl ac mae angen i ni fod yn esiampl i chwaraewyr rygbi ifanc uchelgeisiol – mae Stoptober yn syniad ardderchog.”
Andrew Jones yw Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, “Rydyn ni’n wirioneddol falch fod RGC1404 yn ein helpu i hyrwyddo’r ymgyrch hynod bwysig yma. Nid yw chwaraeon a smygu’n cymysgu a gall ein partneriaid mewn chwaraeon ein helpu i ledaenu’r neges.
Gellir cael gafael ar yr holl gymorth sydd ei angen arnoch chi a manylion ar sut i gofrestru â Stoptober drwy fynd i:
www.stopsmokingwales.com neu ffonio 0800 085 2219
There are no events to show yet.