WRU seeks new Head Coach, Physical Performance Lead and National Performance Analyst for Women's Programme
Picture caption: Paige Randall makes gains against the Barbarians in November, with Kerin Lake (left) and Abbie Fleming in support
In line with the Welsh Rugby Union’s commitment to increased support of the women’s performance programme, investment has been agreed for a new, female-specific, world-leading coaching structure for the national 15s and 7-a-side programmes.
The WRU has today (Thurs 2 July) launched a search for a three new posts specifically for the women’s performance programme in order to significantly raise standards in the women’s game ahead of next year’s Rugby World Cup in New Zealand and the Commonwealth Games in 2022.
There will be a new Head Coach, Senior Women’s National Programme [CLICK HERE FOR FULL JOB DESCIPTION] who will be responsible for the planning, implementation and delivery of the coaching programme for both the 15s and 7s international programmes in Wales, a Physical Performance Lead to design and implement a strategic programme for all aspects of physical performance for all levels of women’s rugby in Wales [CLICK HERE FOR FULL JOB DESCRIPTION] and a performance analyst for the female performance programme [CLICK HERE FOR FULL JOB DESCRIPTION]. It is expected that further coaches will be appointed to the team in due course.
WRU Chief Executive Martyn Phillips said, “We have approved plans to grow the women’s game and to strengthen its performance side. Clearly Covid 19 has impacted those plans like all areas of our organisation but we have taken the conscious decision to continue with planned investments. We hope this will allow us to make progress in closing the gap with the top nations in women’s rugby, which has always been at the core of our strategy.”
WRU Performance Director Ryan Jones said, “We are keen to talk to professional coaches with the ability to be world-leading within women’s rugby. This is an exciting period for the women’s game globally with the Rugby World Cup and Commonwealth Games around the corner and the group of players and coaches we assemble over the coming months will have the opportunity to build something special within a clear set of performance, personal and team goals, both within the international 15-a-side and 7s game.”
WRU Women and Girls’ General Manager Charlotte Wathan added, “We are committed to increasing female participation numbers and raising standards at all levels of the game for women and girls in Wales and raising performance standards through a dedicated team of coaches and performance staff will greatly help us to achieve those aims. Part of the role of the new staff will also be to raise coaching and conditioning standards across the female game in Wales.”
The Welsh Rugby Union is working more closely with the Premier 15s clubs in England in terms of maximising medical and S&C resources and working together on areas such as season planning.
Wathan added, “In the short term, the intention is that our performance players will train and play for Premier 15s clubs and longer term we aim to establish two high performance centres in Wales, hopefully leading to the development of two competitive ‘super clubs’.
“We know we have talented players in Wales and we believe these measures will help to further harness that talent and create an environment which increases competition for places in the programme.”
Once the appointments are made, the planning will begin in earnest ahead of next year's Rugby World Cup in New Zealand. It is hoped the new coaching team will be in place by the autumn.
TÎM HYFFORDDI NEWYDD SY'N BENODOL I FERCHED I ARWAIN MENYWOD CYMRU
Yn unol ag ymrwymiad Undeb Rygbi Cymru i roi mwy o gefnogaeth i raglen berfformio'r merched, cytunwyd ar fuddsoddiad ar gyfer strwythur hyfforddi newydd, penodol i ferched, ag sy’n arwain y byd, ar gyfer y rhaglenni cenedlaethol 15 a 7 bob ochr.
Mae Undeb Rygbi Cymru heddiw (Iau, 2ail Gorffennaf) wedi lansio chwiliad am dair swydd newydd yn benodol ar gyfer rhaglen berfformio'r merched er mwyn codi safonau'n sylweddol yn y gêm i fenywod cyn Cwpan Rygbi'r byd y flwyddyn nesaf yn Seland Newydd a Gemau'r Gymanwlad yn 2022.
Bydd Prif Hyfforddwr newydd, Rhaglen Genedlaethol i Fenywod Hŷn [CLICIWCH YMA AM MWY O FANYLION] a fydd yn gyfrifol am gynllunio, gweithredu a chyflawni rhaglen hyfforddi drawsnewidiol ar gyfer y rhaglenni rhyngwladol i dimau 15 a 7 yng Nghymru, Arweinydd Perfformiad Ffisegol i gynllunio a gweithredu rhaglen strategol ar gyfer pob agwedd ar berfformiad a datblygiad corfforol ar gyfer pob lefel o rygbi merched yng Nghymru [CLICIWCH YMA AM MWY O FANYLION] a dadansoddwr perfformiad [CLICIWCH YMA AM MWY O FANYLION] ar gyfer y rhaglen perfformiad benywaidd. Disgwylir y bydd mwy o hyfforddwyr yn cael eu penodi i'r tîm maes o law.
Dywedodd Prif Weithredwr URC, Martyn Phillips, "Rydym wedi cymeradwyo cynlluniau i dyfu'r gêm i fenywod ac i gryfhau ei hochr berfformio. Yn amlwg, mae Covid 19 wedi effeithio ar y cynlluniau hynny fel pob un o feysydd ein sefydliad ond rydym wedi gwneud y penderfyniad ymwybodol i barhau â buddsoddiadau arfaethedig. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ein galluogi i wneud cynnydd o ran cau'r bwlch rhyngom ni a'r gwledydd gorau o ran rygbi merched, sydd wastad wedi bod wrth wraidd ein strategaeth. "
Dywedodd Cyfarwyddwr perfformiad URC, Ryan Jones, "Rydym yn awyddus i siarad â hyfforddwyr proffesiynol sydd â'r gallu i arwain y byd o fewn rygbi merched. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r gêm i fenywod yn fyd-eang gyda Chwpan Rygbi'r Byd a Gemau'r Gymanwlad rownd y gornel a bydd y grŵp o chwaraewyr a hyfforddwyr rydym yn eu cydosod dros y misoedd nesaf yn cael y cyfle i adeiladu rhywbeth arbennig o fewn set glir o nodau perfformiad, personol a thîm, o fewn y gêm 15-bob-ochr a 7-bob-ochr ryngwladol."
Ychwanegodd Charlotte Wathan, rheolwr cyffredinol Undeb Merched a Genethod URC, "Rydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer y merched sy'n cymryd rhan a chodi safonau ar bob lefel o'r gêm i enethod a merched yng Nghymru a bydd codi safonau perfformiad drwy dîm ymroddedig o hyfforddwyr a staff perfformiad yn ein helpu'n fawr i gyflawni'r nodau hynny. Rhan o rôl y staff newydd hefyd fydd codi safonau hyfforddi a chyflyru ar draws y gêm fenywaidd yng Nghymru.
"Rydym yn gweithio'n agosach gyda chlybiau 15 bob-ochr Uwch Gynghrair yn Lloegr o ran gwneud y gorau o'n hadnoddau meddygol a S&C cyfunol a gweithio gyda'n gilydd ar feysydd megis cynllunio tymor. Yn y tymor byr, y bwriad yw y bydd y mwyafrif o'n chwaraewyr perfformiad yn hyfforddi ac yn chwarae i’r clybiau hynny a'r tymor hwy ein nod yw sefydlu dwy ganolfan perfformiad uchel yng Nghymru, gan arwain, gobeithio, at ddatblygu dau ' uwch glwb ' cystadleuol.’
"Rydym yn gwybod bod gennym chwaraewyr talentog yng Nghymru a chredwn y bydd y mesurau hyn yn helpu i harneisio'r dalent honno ymhellach a chreu amgylchedd sy'n cynyddu'r gystadleuaeth am leoedd yn y rhaglen."
Gobeithir y bydd y tîm hyfforddi newydd yn ei le erbyn yr hydref.
There are no events to show yet.