Following report kindly supplied by Bala RFC.
Yn y cyfnod hwn o bandemig byd-eang sydd wedi effeithio arnom I gyd mewn un fforddneu'r llall, teimlodd y Clwb Rygbi ei fod yn bwysig dangos ein gwerth fawrogiad tuag at ein G.I.G drwy hel arian tuag at ein meddygfa lleol. Ar Dydd Mawrth y 5ed o Fai, bu aelodau a ffrindiau o'r Clwb gymryd her o drafeilio o'r Clwb I Stadiwm Twickenham, 195 milltir o bellter o fewn 20 diwrnod. Er mwyn cynhyrchu'r milltiroedd, y dasg oedd I redeg neu gerdded o amgylch cae y Tim 1af gymaint o weithiau a phosib o fewn amser oedd wedi ei ddyranu, yn dilyn cyfyngiadau COFID-19. Ar Fai 16eg, dim ond 11 diwrnod mewn i'r her, roeddem wedi cyrraedd Twickenham. Felly doedd dim amdani ond trafeilio 144 milltir arall mewn 11 diwrnod o Twickenham I Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.
Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi cwblhau'r her o fewn 20 diwrnod, a chwblhau dros 339 o filltiroedd. Mae wedi bod yn wych gweld chwaraewyr, eu teuleuoedd, aelodau'r Clwb a'r gymdeithas leol yn cyfrannu I gefnogi ein Meddygfa leol. Rydym wedi codi swm sylweddol a fydd yn galluogi'r feddygfa brynu cadeiriau newydd a all gael eu glanhau a'u hail defnyddio er mwyn atal lledaenu COFID-19 o fewn ein gymuned. Dymunwn ddiolch o galon I bawb sydd wedi cymryd rhan a chyfrannu tuag at yr achos arbennig hwn. Aroswch yn saff
There are no events to show yet.