Llwyddiant i 3 Tim o'r Ysgol yn gystadlaeth yr Urdd
Wythnos I’w chofio
Cafodd criw merched Ysgol Y Berwyn wythnos anhygoel yn cystadlaeth 7 bob ochor yr Urdd yn Ngaerdydd ddiwedd y tymor diwethaf.
Roedd yr Ysgol yn cystadlu gyda timau Dan13/15/18 Yr holl fwriad o fynd ar merched i gystadlu oedd i geisio creu mwy o ddiddordeb a chodi ymwybyddiaeth or manteision o fod yn rhan or sessiynau rygbi o fewn yr Ysgol ar sessiynau ychwanegol mae Clwb Rygbi Y Bala yn rhedeg ar gyfer merched yr ardal.
Dechreuodd yr wythnos yn dda gyda’r tim Dan13 yn enill y gwpan! Dyma brofiad cyntaf llawer or merched yma o chwarae mewn cystadlaeth or fath ac yn wir roedd rhai merched yn ymweld ar Brifddinas am y tro cyntaf. Er bod y merched wedi bod yn chware o fewn yr Ysgol roedd hi yn wych iw gweld yn cystadlu yn erbyn ysgolion mawr y De a tyfu mewn hyder gyda bob gem a chwaraewyd.
Dydd Iau tro y criw Dan15 oedd hi ac hefyd cafwyd llwyddiant eto gyda’r merched yn enill y Plat mewn rownd derfnol cyffrous iawn yn erbyn Ysgol Bro Teifi, enillwyd y gem gyda symudiad olaf y gem wrth ir Berwyn sgorio cais gwych.
Yn dilyn llwyddiant y timau Iau roedd chydig o bwysau ar y Tim dan18 pan ddaeth ei tro nhw. Or dechrau cyntaf roedd y tim yma o dan anfantais gan ma dim ond 7 chwarewraig odd ganddynt oherwydd bod rhai wedi gorfod aros yn yr Ysgol i sefyll arholiad ar yr un diwrnod. Er yr anfantais o fod heb eilyddion oedd yn gorfodi ir merched chwarae bob munud o bob gem cafwyd ymdrech anhygoel gan bawb a cyrhaeddwyd rownd derfynol y gwpan. Yn anffodus collwyd y gem derfynol 24-26 yn erbyn Coleg Gwent . Un gem yn ormod ar y diwrnod beryg iawn!!!.
Er yr holl lwyddiant yn ystod yr wythnos enillodd y merched rhai pethau llawer mwy gerthfwawr nac unrhyw gwpan neu medal!! Rhwbeth na dim ond taith rygbi ac aros dros nos gyda criw ei greu!
Cyfeillgarwch oes , Hwyl,Dysgu parchu eraill,Creu Undod o fewn y criw, Ac atgofion am oes!!!
Y gobaith nawr yw fod y merched a fuodd yn rhan or wythnos anhygoel hon yn ysbrydoli ac anog mwy o ferched i ymuno gyda sessiynau rygbi gyda’r Ysgol a’r Clwb lleol fel y byddant hwythau hefyd yn gallu elwa o fod yn rhan or teulu gorau yn y Byd!! Y TEULU RYGBI!!
Adroddiad Euros
(This is a report about the success of the girls of Ysgol y Berwyn Bala in the recent Urdd 7's competition in Cardiff)
There are no events to show yet.