£100k funding package sees the creation of a new floodlit rugby pitch at Nant Conwy RFC! Report by Nant Conwy RFC.
Clwb Rygbi Nant Conwy has secured an impressive funding package of more than £100,000 to pay for its newly created floodlight rugby pitch at Pant Carw, Trefriw. This exciting project will provide the local community with a brand new facility in the heart of the Conwy Valley.
Robin Williams Chairman of Nant Conwy explained “We are delighted to have been successful in securing grant support from the Welsh Government and EU funded Rural Development Plan, Welsh Rugby Union, Sport Wales, innogy Renewables UK and Dwr Cymru. The creation of a third pitch with floodlights has been an ambitious project for the club brought about by an ever increasing number of young boys and girls wanting to play rugby”.
The majority of the groundworks have been undertaken over the summer months, with engineering, drainage, soils and surface preparation completed to WRU / IRB specifications. New state of the art, cost efficient LED floodlights have also been installed to assist the 18 teams practice and train throughout the dark winter months.
“We are extremely grateful to our funders who have made the whole project possible for us, without their financial input we simply could not have got the project off the ground” said Robin.
The project is supported by Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government; Welsh Rugby Union Facilities Grant; National Lottery Funding awarded through Sport Wales’s Development Grant; innogy Renewables UK – Dolgarrog Hydro Community Fund; Dwr Cymru – Welsh Water Community Fund.
“The new pitch will provide a much needed facility for the club’s expanding membership to train and play matches. It’s a testament to the volunteer coaches, managers and support personnel that the club is growing from strength to strength. We have over 225 in the junior section, over 100 in the youths and seniors and we have a thriving girls and women section with over 100 members” said Robin.
“The newly installed LED floodlights will enable all our teams to train at the Club during the winter months and will help the club continue in its successes from last season” he added.
Some of the club’s recent highlights has seen the girls under 18s become all Wales Champions, the under 15 girls crowned North Wales Champions, under 16 boys RGC Champions, the under 13 boys win the Paris Euro Championships, the second team winning division three North Wales, and the first team’s colossal achievement playing in the SWALEC/ WRU Plate Final at the Principality Stadium, Cardiff earlier this year.
Carla Williams under 12s and Ceirw Nant player said “Clwb Rygbi Nant Conwy has a strong junior and girls section. I’m both lucky and proud to play for my Club on home ground and across North Wales. The new third pitch means that we can continue to attract more juniors and girls into rugby”.
WRU Head of Rugby Operations Julie Paterson said, “Clwb Rygbi Nant Conwy is without doubt one of the best-supported, innovative and inclusive clubs in Wales. A project of this scale and ambition to improve the experience of all at the club shows what can be done by a hard-working team of volunteers working together and with external partners. They continue to broaden the appeal of the club, enhancing its place as the social and emotional heart of the whole area.”
Pecyn ariannol o £100k ar gyfer cae rygbi newydd a llif oleuadau yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy!
Mae Clwb Rygbi Nant Conwy wedi bod yn llwyddiannus drwy sicrhau pecyn ariannol o dros £100,000 i dalu am drydydd cae rygbi newydd gyda llif oleuadau ym Mhant Carw, Trefriw. Bydd y prosiect cyffrous hwn yn rhoi adnodd cymunedol newydd sbon yng nghanol Dyffryn Conwy.
Eglurodd Robin Williams,Cadeirydd Nant Conwy “Rydym yn hynod falch o sicrhau cefnogaeth grantiau gan Lywodraeth Cymru drwy Raglen Datblygu Wledig yr UE, Undeb Rygbi Cymru, Chwaraeon Cymru, innogy Renewables UK a Dwr Cymru. Mae’r prosiect i greu trydydd cae gyda llif oleuadau wedi bod yn un uchelgeisiol iawn i’r clwb, ac wedi dod i’r amlwg oherwydd y nifer cynyddol o hogiau a genod ifanc sydd eisiau chwarae rygbi”.
Gwnaed y rhan fwyaf o’r gwaith tirlunio yn ystod misoedd yr haf, gyda gwaith peirianyddol, draenio, darparu’r pridd ac wyneb y tir i gyd wedi eu cwblhau i safonau URC / IRB. Mae llif oleuadau LED newydd ac effeithlon wedi cael eu gosod er mwyn galluogi’r 18 tîm i hyfforddi ac ymarfer trwy gydol misoedd tywyll y gaeaf.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i’n cyllidwyr sydd wedi ein galluogi i wireddu’r prosiect yma, heb eu cymorth ariannol, ni fyddem wedi gallu gwneud dim” meddai Robin.
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig; Grant Adnoddau Undeb Rygbi Cymru; Arian y Loteri Genedlaethol a ddosbarthir trwy Grant Datblygu Chwaraeon Cymru; innogy Renewables UK – Cronfa Gymunedol Hydro Dolgarrog; Dwr Cymru – Cronfa Gymunedol.
“Bydd y cae rygbi newydd yn rhoi adnodd sydd wir ei angen arnom yn sgil y niferoedd cynyddol sy’n hyfforddi ac yn chwarae gemau. Mae’n adlewyrchu gwaith y gwirfoddolwyr sy’n hyfforddwyr, rheolwyr a phersonél cefnogol, bod y clwb yn parhau i dyfu o nerth i nerth. Mae gennym dros 225 yn yr adran iau, dros 100 yn yr adran ieuenctid ac adran merched sy’n ffynnu gyda dros 100 o aelodau” meddai Robin.
“Mi fydd y llif oleuadau LED newydd yn galluogi i’n timau ni hyfforddi dros misoedd y gaeaf ac yn siŵr o helpu’r clwb barhau yn y llwyddiant a gafwyd y tymor diwethaf” ychwanegodd.
Mae rhai o lwyddiannau diweddar y clwb yn cynnwys y merched yn ennill Pencampwriaeth Cymru o dan 18, merched o dan 15 yn cael eu coroni yn Bencampwyr Gogledd Cymru, bechgyn o dan 16 yn ennill Pencampwriaeth RGC, dan 13 yn ennill Pencampwriaeth Ewro ym Mharis, yr ail dîm yn ennill y 3edd Adran yng Ngogledd Cymru, a llwyddiant anhygoel y tîm cyntaf yn chwarae yng nghystadleuaeth Plât SWALEC/ URC yn Stadiwm y Principality, Caerdydd yn gynharach eleni.
Dywedodd Carla Williams, chwaraewraig o dan 12 a Ceirw Nant “Mae gan Glwb Rygbi Nant Conwy adran gref o ran ieuenctid a merched. Rwy’n hynod lwcus ac yn falch i chwarae i’r clwb gartre a ledled Gogledd Cymru. Bydd y cae newydd yn golygu ein bod yn gallu parhau i ddenu mwy o ieuenctid a merched i’r rygbi”.
Dywedodd Julie Paterson, Pennaeth Gweithrediadau Rygbi, “Mae Clwb Rygbi Nant Conwy yn sicr yn un clwb sydd â chefnogaeth gref, yn hynod arloesol a chynhwysol. Mae prosiect o’r maint yma, fydd yn gwella profiad pawb yn y clwb, yn dangos be ellir ei gyflawni gyda grŵp o wirfoddolwyr sy’n gweithio’n galed ac ar y cyd gyda phartneriaid allanol. Maent yn parhau i ledaenu diddordeb yn y clwb, gan hyrwyddo ei statws fel canolbwynt cymdeithasol ac emosiynol yr holl ardal”.
There are no events to show yet.