Dyma fo - Llyfr newydd sbon Arthur Thomas- Straeon Rygbi.
(This is an article on the recent welsh language publication by Arthur Thomas of a collection of tales from various Rygbi clubs in North West Wales. Book available at local book shops or via Gwasg Carreg Gwalch web site- a great Xmas present?)
Straeon rygbi clybiau Gogledd-Orllewin Cymru - Nant Conwy, Bro Ffestiniog, Y Bala, Porthmadog, Pwllheli, Caernarfon, Bethesda a Llangefni.
Cawsom wledd o storiau gan Arthur pan gyhoeddodd 'Straeon Rygbi Gogledd Orllewin Cymru'--darlith goffa Merfyn Williams 2016 ac ers hynny fe aeth o gwmpas i hel mwy o straeon a cawn fwynhad llwyr wrth ddarllen am yr hwyl a sbri cymeriadau doniol a hwyliog ein clybiau- unigolion fel Spyd, Sgwbi Dw, Popi, Popeye, Tony Coleman, Richard Ogwan, Eryl P, Robin Pennant, Bybs, Wil Tei, Wmffra Bach, Jo Llwyn, Brenin, Dei Redman, Huw Sowth, Wil Bing, John Pent, Milgi, Twm Locs, Dewi T, Rhys Jos a Gwyndaf a llawer mwy.
Gwybodaeth Bellach: gan yr awdur
'Mae gan bob clwb chwaraeon ei straeon difyr. Gan i glybiau pêl-droed yr ardal hon gael eu sefydlu rai cenedlaethau yn ôl, bu i lawer o'r straeon difyr farw gydag aelodau gwreiddiol y clybiau hynny. Ond yn achos clybiau rygbi gogledd-orllewin Cymru, mae'r rhai a fu yno o'r dechrau bron i gyd ar dir y byw, gan i'r mwyafrif gael eu sefydlu un ai yn saithdegau neu wythdegau y ganrif ddiwethaf. Felly, rhaid oedd mynd ati ar frys i gasglu'r straeon. Dydi'r gyfrol ddim yn cynnwys pob stori o bob clwb, ac mae llawer i'w casglu eto, ond gan fod angen cychwyn yn rhywle, dyma ganolbwyntio ar wyth o glybiau'r ardal. Gobeithio y bydd y chwerthin a brofir wrth ddarllen hon yn gyfrwng i ddod â mwy o straeon i'r fei. Yn sicr, cewch flas go iawn o’r hyn oedd yn digwydd ar feysydd rygbi Cymraeg y gogledd – ac oddi arno!'
Fe fydd y llyfr diddorol hwn yn dystiolaeth bwysig yn hanes Rygbi Gogledd Cymru ar gof a chadw ac rydym yn ddyledus i Arthur am ei waith bendigedig. Tybed oes na rhywun i wneud rhywbeth debyg yn ardaloedd Clwyd a Phowys?.
Mae y llyfr ar gael yn siopau llyfrau lleol neu archebu drwy wefan Gwasg Carreg Gwalch pris 8 bunt
Dim rhy fuan!! - anrheg Dolig perfffaith !!
Hywel.
There are no events to show yet.