Bala 11 v Nant Conwy 6 in an error-strewn game played in monsoon conditions
CWPAN GOGLEDD CYNRU / NORTH WALES SENIOR CUP
(Cyn derfynnol / Semi Final): yn / at Y Bala
Y BALA 11 v NANT CONWY 6
HHanner amser / Half time: 8 - 3)
Sgorwyr / Scorers:
Nant Conwy: Ciciau Cosb / Penalties: CARWYN ap MYRDDIN (2)
Y BALA: Cais / Try: ARON JONES
Ciciau Cosb / Penalies: RHYDIAN JONES(2)
Noson wlyb iawn gyda llawer o ddŵr ar wyneb y maes. Noson o fethu ciciau cosb (3 i Nant a 4 i’r Bala) a gêm lle'r oedd y bêl yn cael ei tharo ymlaen yn gyson gan y ddau dîm! Bu i Carwyn ap lithro wrth geisio symud y bêl ar ei linell ei hun ar ôl 8 munud a llwyddodd Y Bala i ennill y ryc a phlymiodd Aron Jones (rhif 6) trosodd am unig gais y gêm fel y trodd allan. Bu i’r ymgais am ddau bwynt ychwanegol daro’r postyn. Trosodd Carwyn ap ei gic gosb gyntaf ar ôl 27 munud cyn i Rhydian ateb mewn modd tebyg i’r Bala gyda 30 munud ar y cloc. Sgôr o 8 - 3 ar yr hanner gyda’r chwarae yn cael ei stopio’n barhaus trwy daro pêl ymlaen yn gyson.
Gwelwyd yr union yr un math o chwarae drwy’r ail hanner gyda Carwyn ap yn trosi cic gosb ar ôl 13 munud. Gwelwyd cerdyn melyn i un chwaraewr o’r naill ochr gyda fawr neb o’r dyrfa yn deall y rheswm am y naill gerdyn na’r llall. Llwyddodd Rhydian gyda chic gosb arall gyda 6 munud yn weddill a dyna oedd y sgôr derfynol (11 - 6).
Dymunir y gorau bosibl i Y Bala ag i Fro Ffestiniog yn y rownd derfynol a gynhelir ar Barc Eirias ar ddydd Sul y 6ed o Fai 2012 gan Glwb Rygbi Nant Conwy. Diddorol fydd cael gornest rhwng dau dîm o Ferionnydd!
A really wet evening with much surface water on the pitch. A night of missed penalty kicks (3 for Nant and 4 for Y Bala), and a game where the ball was ‘knocked on’ continuously throughout the match. Carwyn ap slipped on his own line after 8 minutes play and the home team won the ensuing ruck with no. 6, Aron Jones diving over for a try (the only one of the match as it turned out)! The conversion attempt struck the upright. Carwyn ap was successful with his penalty attempt after 27 minutes and Rhydian replied in a similar manner after 30 minutes play. That score (8–3) remained as the half time whistle was blown after a half of regular ‘knock on’ errors.
The pattern of the match did not alter through the second half either – handling error after handling error! Carwyn ap converted a penalty attempt after 13 minutes and a player from each side was shown a yellow card with hardly anybody amongst the crowd watching the match knowing the reasons for the sin binning. With 6 minutes left, Rhydian converted a penalty to make the final score 11 – 6 to the home side.
Clwb Rygbi Nant Conwy congratulate both Bro Ffestiniog and Y Bala for reaching the final (an all Merioneth affair) and wish both sides the best of luck in the final that will be played at Eirias Park on Sunday afternoon, 6th May 2012.
There are no events to show yet.