Colwyn Bay 19 v Ruthin 24 - Chwaraewyd ieuenctid Bae Colwyn ei gem hir-ddisgwyliedig yn rownd go-gynderfynol Cwpan Ieuenctid Y Gogledd yn erbyn y deiliad sef Rhuthun o dan y llif oleuadau yn Rhodfa Brookfield neithiwr
Mawrth 20ed 2012
Ieuenctid Bae Colwyn 19 v Ieuenctid Rhuthun 24
Chwaraewyd ieuenctid Bae Colwyn ei gem hir-ddisgwyliedig yn rownd go-gynderfynol Cwpan Ieuenctid Y Gogledd yn erbyn y deiliad sef Rhuthun o dan y llif oleuadau yn Rhodfa Brookfield neithiwr.
Oherwydd diogelwch penderfynwyd chwarae’r gem gyda sgrymiau ddigystadleuol achos doedd gan yr ymwelwyr ddim bachwr profiadol.Dechreuodd y tim cartref yn addawol a hyderus gyda’r blaenwyr yn ail-gylchu pel glan a sydyn i’r cefnwyr a oeddynt yn ddigon hyderus i lledu’r bel trwy’r dwylo i’r asgellwyr,ond roedd amddiffyn Rhuthun yn ddigon trefnus i wrth sefyll y bygythiadau cynnar.Ar ol 10 munud o ymosod gan y tim cartref llwyddwyd yr ymwelwyr i droi’r bel drosodd a bylchodd maswr Rhuthun ac rhedeg i fewn i 22 Y Bae a passiodd y bel i’w canolwr a rhedodd ongl croes i croesi’r llinell gais am y sgor cyntaf o’r gem ar ei ymysodiad cyntaf i fewn i tir y tim cartref.Treilwyd Y Bae ugain munud nesaf o’r gem yn amddiffyn ac Rhuthun yn rheoli llif y chwarae trwy adeiladu yn synhwyrol gan y blaenwyr a trafod da gan yr olwyr.Ildwyd tair cais a collwyd blaen asgellwr y tim cartref Will Broadway i’r cell cosb yn y cyfnod yma a perygl oedd i’r pennau fynd lawr a’r llifddorau agor, ond fe lanswyd trwy’r blaenwyr un ymosodiad cyn yr egwyl ac yn dilyn hyrddiad ganddynt fe croesodd y canolwr Dan Parry y llinell gais i cadw gobeithion ei dim yn fyw.
Penderfynwyd i eilyddio dau chwarewr yn ystod yr egwyl a roedd ei presenoldeb wedi cryfhau’r tim ac roeddynt yn treulio cyfnodau hir yn tir y gwrthwynebwyr.Dychwelodd yr hyder yn chwarae’r hogie ac o dan arweiniad y capten Sam Ryan a’r canolwr Jordan Sheridan roeddynt yn cario’r bel yn effeithiol ac yn croesi’r llinell fantais yn rheolaidd gan rhoid Rhuthun ar y droed ol.Creuwyd sawl cymal ac gyda amynedd croesodd y mewnwr Gaz Williams am gais wrth y pyst. Gwneuthpwyd mwy o eilyddio a sylweddolodd y tim cartref fod Rhuthun ddim mor cyfforddus a mentrus yn ei chwarae pan oeddynt o dan pwysau.Dal i bwyso yn ddi-seremoni wnaeth y tim cartref a llwyddodd yr eilydd Spencer Lumby i croesi am y drydedd cais yn agos i’r pyst gyda pump munud o’r gem yn weddill.
Roedd diweddglo cyffrous i ddod i’r torf gwerthfawrogol ond llwyddodd yr ymwelwyr i gadw trefn amddiffynol er bod Y Bae yn taflu pobeth atynt i’r diwedd.Selwyd Rhuthun y fuddugoliaeth yn yr hanner cyntaf ond wnaeth Y Bae ddim ildio dim pwynt yn yr ail hanner a dangoswyd ymdrech a cymeriad cymeradwyol ac roeddynt wedi ymrhoi yn llwyr ar ddiwedd y gem.Roedd hi yn anodd dewis seren y gem ond dyfarnwyd y canolwr Dan Parry am ei waith ymosodol ac amddiffynol.
There are no events to show yet.