Following report kindly supplied by Nant Conwy RFC.
Clwb Rygbi Nant Conwy
NANT CONWY – 40 v Llandudno - 21
[Adran 1 y Gogledd / Division 1 North]
Trefn y sgorio a'r sgorwyr / Scoring Sequence and scorers:
3m: 5 – 0 ARTHUR LENNON & 7 – 0 ARTHUR LENNON, 5m: 12 – 0 IFAN PYRS, 9m: 17 – 0 CARWYN AP MYRDDIN & 19 – 0 ARTHUR LENNON, 15m: 24 – 0 SION PRINGLE & 26 - 0 ARTHUR LENNON, 19m: 26 – 5 Rhys Henderson & 26 – 7 Nick Dundee, 24m: 31 – 7 JACK MORIARTY & 33 – 7 ARTHUR LENNON, 35m: 33 – 12 LLOYD EVANS & 33 -14 Nick Dundee, 39m: 38 – 14 CARWYN ROBERTS & 40 – 14 ARTYHUR LENNON
53m: 40 – 19 Dave Davies & 40 – 21 Nick Dundee
Dyfarnwr / Referee: Ms Amanda Lattuca, Mochdre
Ar noson braf gydag wyneb yn cae yn ardderchog o ystyried ei bod yn gêm olaf y tymor, croesawyd Gwŷr y Glannau i Bant Carw a drodd i fyny heb ddigon o flaenwyr rheng flaen a chwaraewyd y gêm gyfan gyda sgrymiau llonydd. Roedd Nant yn gwybod, o ennill, y buasai cyfanswm pwyntiau’r gynghrair yn cyrraedd 100 neu fwy – y cyfanswm uchaf yn holl Adrannau 1 Cymru gyfan! O fewn chwarter awr, cyrhaeddodd y pwynt bonws am sgorio 4 cais i’r tîm cartref. Daeth cais cyntaf yr ymwelwyr wedi 20 munud ag ymatebodd Jack Moriarty gyda chais unigol y noson trwy dderbyn y bêl yn ei ‘22’ ei hun ac osgoi wyth ymgais am ei daclo cyn tirio o dan y pyst. Cyrhaeddodd ail gais Llandudno o fewn 5 munud i’r egwyl ond ni fodlonodd Nant ar hyn ac roedd Carwyn Roberts o benderfynol o wthio pawb o’i ffordd i dirio am gais ychydig cyn i’r chwiban am yr hanner. Sgôr o 40 – 14 ar yr hanner felly.
Yn od iawn, dim ond un cais yn unig a sgoriwyd yn yr ail hanner a hwnnw i Landudno wedi 13 munud. Troswyd tri chais Llandudno gan Nick Dundee a oedd yn chwarae drwy ‘ganiatad’ o Glwb Rygbi Bangor. Nid oedd safon rygbi’r ail hanner gystal a’r hyn a welwyd yn y 40 munud cyntaf! Gwelwyd llawer iawn o chwarae blêr gyda pasio ‘ymlaen’ aml ac nid oedd yr un o’r ddwy ochr yn fodlon rhoi i mewn i chwarae corfforol yr ochr arall. Fel canlyniad, roedd chwiban y ddyfarnwraig yn cael ei chwythu’n aml â’r chwarae yn hynod doredig. Erbyn y diwedd, roedd pawb yn falch o glywed y chwiban olaf.
Nant felly’n gorffen y tymor yn Bencampwyr y Gynghrair gyda 101 pwynt a Llandudno’n gorffen yn y pedwerydd safle. Un gêm yn unig sydd gan gefnogwyr Nant i’w gwylio eto y tymor hwn – ym Mhorthaethwy am 3.00 o’r gloch brynhawn Sadwrn pan fydd Teirw Nant yn wynebu’r tîm cartref yn rownd derfynol Cwpan Gwynedd.
On a lovely evening on a pitch with its surface in a really good condition considering that this was the last match of the season, the ‘Men from the Coast’ were welcomed to Pant Carw and the entire match was played with ‘passive’ scrums as Llandudno did not have sufficient Front Row players. Nant knew, in winning they would reach 100+ points in the League – the highest total by any Divison 1 Club throughout Wales!nmWithin quarter of an hour the ‘bonus point’ for scoring 4 tries had arrived for the home side. Llandudno scored their first try after 20 minutes before winger, Jack Moriarty scored the best individual try of the evening when the ball was passed to him in his own ‘22’ and evaded eight attempts to tackle him before touching down beneath the posts. Llandudno’s second try arrived 5 minutes prior to the interval but Nant were not pleased with this and came back with a try through Lock, Carwyn Roberts who shoved every opponent out of his way as he powered over for a try which gave a half time score of 40 -14.
Rather strangely, only one one try was scored in the second half and that one for Llandudno after 13 minutes. All three of the visitors’ tries were converted by Nick Dundee who played under ‘permit’ from Bangor RFC. The standard of play deteriorated in the second half compared to the first 40 minutes. There occurred a substansial number of ‘forward passes’ and neither side were backing out of the physical side of the match. As a result, there was hardly any continious play and the Match Official’s whistle was being blown on a very regular basis. At the end, all around, and on the pitch, were quite pleased to hear the final whistle.
Thus Nant ending the season as League Champions with 101 points and Llandudno ending in fourth position. There remains only match left for Nant supporters to watch this season – next Saturday afternoon at Menai Bridge RFC with kick off at 3.00 p.m. This will be the Gwynedd Cup Final.
[Ifor Glyn]
There are no events to show yet.