Carwyn Ellis scores five tries for Nant as they put Rhyl to the sword in this North Wales Cup first round fixture.
Nant Conwy 75 v Rhyl 3
(Cwpan Her Gogledd Cymru / North Wales Challenge Cup – R.1)
Sgorwyr Nant Conwy Scorers:
Ceisiau / Tries: Carwyn Ellis (5), Ifan Jones (3), Aeron Jones (1), Robin Eidda (1), Carwyn Roberts (1), Emrys Evans (1) & Gareth Jones (1)
Trosi / Conversions: Aeron Jones (2), Robert Parry (1) & Gareth Jones (2)
Rhyl: Cosb/Penalty: Gareth B Jones
Roedd cryn bryder ymlaen llaw a fyddai’r gêm hon ymlaen gyda’r holl law ar diroedd gweddill Cymru ond roedd cyflwr y maes yn ardderchog a chadwodd y glaw i ffwrdd yn ystod yr ornest! O’r munud cyntaf, bu’r chwarae i gyd yn hanner Rhyl o’r cae ac wedi bygwth unwaith ynghynt, tiriodd Ifan wrth dderbyn pêl gyflym ar yr asgell chwith wedi 8 munud. Ni throswyd y cais ond , ar 10 munud, chwalwyd sgrym amddiffynnol Rhyl a gwthiwyd y pac dros y linell wen gyda Carwyn, y capten, yn sgorio’r cyntaf o’i bum cais yn ystod y prynhawn. Bu i Aeron drosi. Bum munud yn ddiweddarach, tiriodd Carwyn am yr eilwaith wedi derbyn y bêl yng nghanol y cefnwyr y tro hwn gan hyrddio’i hun drosodd ar yr asgell dde.
Aflwyddiannus fu’r trosiad. Bu i unig sgôr yr ymwelwyr ddod ar 28 munud pan droswyd cis gosb o tua 40 metr gan y rhif 10, Gareth B Jones. Ymatebodd Nant yn syth o’r ail gychwyn gyda rhif 7, Robin Eidda yn cysylltu’n dda gyda’r cefnwyr i blymio trosodd. Aeron yn trosi eto. Tri munud cyn yr hanner, llwyddodd Aeron i osgoi pedwar tacl wrth redeg yn gyflwymach na phawb i sgorio ar yr asgell chwith. Yna, funud cyn yr hanner, gyda’r blaenwyr yn gyrru’n effeithiol i lawr y cae, bu i’r ail reng, Carwyn R, ymestyn i dirio ar y llinell. Methwyd yr ymgais hwn at drosi hefyd a gwelwyd tros yr egwyl fod Aeron yn dioddef o gic yn ei ben ac nad oedd yn ddigon iach i barhau. Sgôr o 34 – 3 ar yr hanner felly,
Dechreuodd yr ail hanner yn yr un modd a’r un cyntaf gyda Carwyn E yn sgorio’i drydydd cais ar ôl 5 munud. Penderfynwyd defnyddio’r holl eilyddion. Wedi 9 munud o’r hanner, aeth Ifan trosodd ar y dde a gwelodd y Dyfarnwr rif 2 y Rhyl yn dod i mewn yn hwyr iawn gan roi penelin yng nghefn y sgoriwr. Arweiniodd hyn at gerdyn coch yn syth heb unrhyw ddadl gan yr ymwelwyr. Gyda’r penderfyniad hwn, aeth y gêm yn un gyda sgrymiau tawel. Serch hynny, parhaodd Nant i sgorio ceisiau’n rheolaidd drwy Carwyn E (trosiad Rob Parry), Emrys, Ifan,
Gareth (trosi’i gais ei hun gyda chic adlam) a Charwyn E yn sgorio’r cais olaf gyda Gareth yn trosi. Er bod amser ar ôl, cytunodd pawb i ddod a’r chwarae i ben gyda sgôr o 75 – 3.
Bydd Nant yn chwarae nesaf gartref yn erbyn YR WYDDGRUG ar y 5ed Ionawr 2013 (Adran 1 y Gogledd) gyda’r gic gyntaf am 2.30 o’r gloch.
There was concern during the morning of the match whether this match would be on considering the amount of flooding in other parts of Wales. The standard of the pitch turned out to be excellent and the rain kept away throughout the entire afternoon.
From the first minute, the the majority of the play was in the Rhyl half and, after threatening once before, Scrum Half, Ifan opened the scoring after 8 minutes with a try on the left wing. The conversion attempt failed but, after 10 minutes a defensive scrum by Rhyl was pushed over their own line and Carwyn E (the Nant Captain) stood up after scoring the first of his 5 tries in the match! This try was converted by Aeron before, five minutes later the no. 8, Carwyn linked up with the backs this time to score his second try near the right hand touchline. Again, the conversion was missed.
The visitors’ only score came after 28 minutes when the no 10, Gareth B Jones was successful with a penalty from about 40 mts. Nant responded well and the flanker, Robin Eidda linked up well with the backs to score a try with Aeron converting. Then, Aeron jinked his way from the half way line, out ran four attempted tackles to touch down in the corner. He did not convert his own try neither did he convert, lock, Carwyn Roberts’s try right on half time as the Nant pack rumbled and drove their way down the pitch. It turned out at the break that Aeron had suffered an injury to his head and was taken off as a precaution. A score of 34–3 ensued at half time and the Coaching staff gave all the replacements an opportunity to play during the second half.
This second half began in the same manner with Carwyn E and Ifan scoring tries in the first 10 minutes. Indeed as Ifan was lying on the ball after scoring the Rhyl no 2 was seen arriving late to elbow the scorer in the back. The red card was brandished immediately by the Referee and there was no complaints whatsoever by anyone from Rhyl..
This created a ‘passive scrums’ situation for the remauinder of the match. But, Nant continued to score freely through tries from Carwyn E (converted by Rob Parry), Emrys, Ifan, Gareth (converting his own try by means of a drop goal) and Carwyn E scoring the final try of the match with Gareth converting again. Although there was some time remaining, everyone agreed to complete the match at that stage with a 75 – 3 scoreline.
The next match that Nant will be play will be a Division 1 North home match against MOLD with the kick off being at 2.30 p.m.
There are no events to show yet.