5-5 and a very entertaining game, please take a look at the picture album - match report follows below
Iau / Thursday 18.08.2011
Chwarewyd y gem hon fel agoriad 'cymdeithasol' estynaid newydd Clwb Rygbi Nant Conwy. Gwahoddwyd aelodau o Bwyllgorau o bob Clwb Rygbi Yng Nghogledd Cymru yn ogystal ag enwogion rygbi eraill. Braf oedd gweld tros 200 yn bresennol. Dechreuodd y tim gwadd yn gryf ar wyneb llithrig yn dilyn tua 2 awr o law trwm cyn y gic gyntaf. Ond amddiffynnodd Nant yn dda gan ddod fwyfwy i'r gem a sgorio cais gan Emrys Evans sydd yn dychwelyd i Nant eleni ar ol chwarae i Lanymddyfri am sawl tymor. Methwyd y trosiad!
Stori debyg oedd hi yn yr ail hanner ond llwyddodd Mathew Parry (Bethesda) i sgorio cais yn y gornel gyda'r trosiad yn cael ei fethu unwaith eto. Bu i'r dyfarnwr, Tom Wright chwythu'r bib olaf gyda'r sgor yn hollol gyfartal 5 - 5 gyda chwaraewyr y ddwy ochr wedi mwynhau chwarae 80 munud o rygbi safonol iawn.
Bydd nant Conwy'n chwarae gem gyfeillgar cyn y tymor nos Iau nesaf ym Mae Colwyn gyda'r gic gyntaf am 7.30 o'r gloch.
This match was played as the 'social' opening of nant Conwy's new Clubhouse. The 'rugby' fraternity from all Rugby Clubs across North Wales were invited and it was good to see over 200 spectators present.The President's XV started strongly on a wet surface following a 2 hour heavy shower before the kick off. But Nant defended resolutely and became more of a force in the game and eventaully scored an unconverted try by Centre Emrys Evans. Emrys is returning to Nant this coming season after playing for Llanymddyfri for several seasons.
It was a similar story in the second half but Mathew Parry (Bethesda) squeezed over for an unconverted try in the corner. After a full 80 minutes of a high standard of rugby, referee Tom Wright blew the final whistle with the score level at 5- 5 and everuy player present mentioned how they had enjoyed been part of such a specacle.
Nant Conwy will play another pre-season friendly away at Colwyn Bay on Thursday, 25th August with kick off at 7.30 p.m.
Ifor Glyn (Ysgrifennydd / Secretary)
Clwb Rygbi Nant Conwy
There are no events to show yet.