Many thanks to Caernarfon RFC for the following information. Our sincere condolences go to Bleddyn's family.
Gyda thristwch rydym yn adrodd am farwolaeth Bleddyn Morgan, Caeathro. Bu’n Llywydd Clwb Rygbi Caernarfon am dros ddegawd ac yn gefnogwr ffyddlon i’n timoedd, gan eu dilyn ar hyd a lled Cymru. Ar un ymweliad â’r Trallwng, a Bleddyn wedi teithio yno ar fws y Tîm 1af, yn ystod y gêm, bu’n rhaid mynd ag un chwaraewr i Ysbyty’r Amwythig am driniaeth ac aeth Bleddyn gydag ef yn yr ambiwlans. Yn hytrach na dychwelyd i Gaernarfon ar ddiwedd y gêm gyda phawb arall, arhosodd gyda’r chwaraewr yn gwmni mewn ysbyty ddiethr. Dyna fesur o’i garedigrwydd a’i anwyldeb.
Roedd Clive James yn adnabod Bleddyn ers blynyddoedd lawer, a diolch iddo am lunio’r isod:
"Ganwyd a magwyd Bleddyn adeg yr Ail Rhyfel Byd yng ngolwg y môr yn Y Barri. Dim syndod iddo, fel llawer o'i gyfoeswyr, dreulio ei flynyddoedd cynnar ar y môr.
Gydag amser symudodd i Ynys Môn. Yn fuan tynnodd yr Hwntw at Glwb Rygbi Y Benllech, lle bu’n aelod ffyddlon o'r Pwyllgor am flynyddoedd. Ar yr ystlys ac yn y bar wedyn roedd e'n awyddus i drafod rygbi gyda phawb!
Ar ôl ymddeol symudodd ef a Viv i Dyddyn Uchaf uwchben Caeathro. Bron o'r cychwyn yn absenoldeb gêm gan Benllech roedd e'n mynychu gemau ar Y Morfa. Ond adeg gemau rhyngwladol yng Nghaerdydd roedd e'n cyd-deithio gyda'i gyfeillion o'r Ynys - a chefnogi tafarn enwog y 'Vulcan' ger y carchar.
Pan ddaeth Llywyddiaeth Clwb Rygbi Caernarfon yn wag roedd e'n ymgeisydd penigamp ar gyfer y swydd. Ar ol gemau ar Y Morfa roedd e'n hoff iawn o gefnogi'r Bar. Roedd ganddo amser i drafod y gêm gyda'r ddau dîm - boed ar ôl gêm y Tîm Cyntaf, y Merched neu'r Adran Iau.
Fel aeth y blynyddoedd heibio nid oedd yn ymweld â'r Morfa mor aml. Felly ei ddymuniad oedd trosglwyddo'r Llywyddiaeth i rhywun arall. Roedd yn fraint i mi geisio llenwi ei sgidiau. Yn ystod y blynyddoedd dilynol, pob tro galwais heibio Tyddyn Uchaf, un pwnc oedd testun y sgwrs - hanes timau Clwb Rygbi Caernarfon. Dioddefodd salwch hir ond flynyddoedd cyn hynny, roedd yr Hwntw o’r Barri wedi troi yn Gofi."
Cynhelir ei angladd ddydd Mawrth 9fed Chwefror am 13.30 yn yr Amlosgfa ym Mangor. Mae’r hysbyseb yn y papur yn nodi ‘family funeral’ ond mae ei fab Nicholas wedi dweud y bydd croeso i unrhyw aelodau o Glwb Rygbi Caernarfon i fynychu.
It is with sadness we report the death of Bleddyn Morgan, Caeathro. He was President of Clwb Rygbi Caernarfon for over a decade and a loyal supporter of our teams, following them the length and breadth of Wales. On one visit to Welshpool, Bleddyn had travelled on the 1st Team bus, but during the match, one player had to be taken to Shrewsbury Hospital for treatment and Bleddyn accompanied him in the ambulance. Instead of returning to Caernarfon at the end of the game with everyone else, Bleddyn stayed with the player for company in an unfamiliar hospital. This was a measure of his kindness and thoughtfulness.
Clive James knew Bleddyn for many years, and thanks to him for the following: "Bleddyn was born and raised during World War II within sight of the sea in Barry. No wonder he, like many of his contemporaries, spent his early years at sea.
In time he moved to Anglesey. Soon the Hwntw was drawn the rugby club in Benllech, where he served as a loyal member of the Committee for many years. Either on the touchline or in the bar, he would discuss rugby with anyone!
After retiring he moved with Viv to Tyddyn Uchaf above Caeathro. Almost from the outset, in the absence of a game at Benllech, he would attend matches at Y Morfa. But during International matches in Cardiff he would accompany his friends from the Island - and frequent the well-known pub, 'The Vulcan' near Cardiff prison.
When the Presidency of Clwb Rygbi Caernarfon became vacant, he was an excellent candidate for the job. After matches at Y Morfa, he was to be found in the bar. He had time to discuss the match with both teams - whether the First Team, the Women's or the Juniors.
As the years passed he did not visit the Morfa as frequently and he took the decision to step down from the Presidency. It was my privilege to try and fill his shoes.
During the following years, every time I called at Tyddyn Ucha, one subject was the topic of conversation - Clwb Rygbi Caernarfon’s teams’ fortunes. He suffered a long illness, but years earlier, the Hwntw from Barry had become a Cofi."
His funeral will take place on Tuesday 9th February at 13.30 at the Crematorium in Bangor. The notice in the paper states 'family funeral' but his son Nicholas has said that any members of Clwb Rygbi Caernarfon are welcome to attend.
There are no events to show yet.